Nawdd Cymunedol Ffoaduriaid
Mae Croeso Menai yn rha o gynllun cenedlaethol sy’n rhoi’r cyfle i grwpiau cymunedol chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o helpu teuluoedd sy’n ffoi i ymgartrefi yn eu cymdogaeth.
Ysbrydoli cysylltiadau cydweithredol rhwng grwpiau lleol amrywiol
Ein cymuned yn dod ynghyd i roi noddfa i deulu o ffoaduriaid
Codi arian
Croeso Menai yw’r unig grŵp yng Ngogledd Cymru i ymgartrefu tueluoedd sy’n ffoi. Ar hyn o bryd mae gennym dau deulu o Syria ac Irac yn byw ym Mangor ac rydym wrth ein bodd eu gweld yn cynefino mor dda. Ond, erbyn hyn, mae’n bryd i godi mwy o arian er mwyn cynllunio i ddod â thrydydd teulu i’r ardal, y tro yma o Affganistan.
Fedrwch chi ein helpu?
Gwirfoddolwch gyda Croeso Menai
Y sgil pwysicaf y gall gwirfoddolwr ei gynnig i Groeso Menai yw ei fod yn arbenigwr ar fyw yng Ngogledd Cymru, beth bynnag fo cefndir ei waith neu ei gartref. Does dim ots os ydych chi’n Fam sy’n aros gartref, yn ddi-waith, darlithydd prifysgol, gweithiwr cymdeithasol wedi ymddeol, adeiladwr, athro – beth bynag yw’ch cefndir, rydych chi’n adnabod yr ardal, yn gyfarwydd â systemau Prydeinig, ac mae gennych chi rwydweithiau. O fewn tîm Croeso Menai, bydd rhywun yn adnabod rhywun all ddatrys problem, cyflawni tasg, gofyn y cwestiynau cywir neu gysylltu â’r bobl iawn.
Diddordeb? Cysylltwch heddiw!
Cyfrannwch i ni
Os hoffech gyfrannu at Groeso Menai, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio’r cod QR neu drwy drosglwyddiad banc:
Cyfrif: Croeso Menai
Côd didoli: 51-61-28
Rhif cyfrif: 77490835
NatWest
Cyfeiriwch eich rhodd gyda’ch enw.
Anfonwch e-bost atom am ffurflen rhodd cymorth.
Diolch yn fawr!
Fel arall, gallwch gyfrannu gan ddefnyddio:
CAF (Charities Aid Foundation)
Facebook:@CroesoMenai
Charity Registration Number: 1186363