Tynnu cymunedau at ei gilydd.
Croesawu ffoaduriaid
Mae Croeso Menai yn grŵp elusennol lleol a sefydlwyd i gymryd rhan yng nghynllun Nawdd Cymunedol llywodraeth y DU. Ei bwrpas yw defnyddio grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol i ddod â theuluoedd ffoaduriaid, sydd wedi eu cymeradwy, i’r DU o ardaloedd rhyfel ac i’w helpu i sefydlu bywydau newydd yma. Croeso Menai yw’r grŵp cyntaf o’r fath yng Ngogledd Cymru, ond bu eisoes nifer o brosiectau llwyddiannus mewn ardaloedd eraill o’r wlad. Rydym i gyd wedi gweld y delweddau erchyll o bobl sy’n peryglu eu bywydau yn chwilio am ddiogelwch yn Ewrop, ac rydym wedi darllen am sefyllfaoedd erchyll y gwersylloedd ffoaduriaid. Trwy groesawu teulu ffoaduriaid i’n cymuned, gallwn wneud gwahaniaeth bychan ond pwysig. Mae hefyd yn gyfle gwerthfawr i ni gydweithio ag eraill yn ein cymuned i gyflawni rhywbeth cadarnhaol.
Gallwch chi helpu?
Cysylltwch ni
Facebook: @CroesoMenai
Ebost: info@croesomenai.org.uk
Cyfrannwch i ni
Cyfrif: Croeso Menai
Côd didoli: 51-61-28
Rhif cyfrif: 77490835
Bydd helpu un teulu ddim yn newid y byd, ond bydd o’n newid byd i un teulu.