Dyma Ni Befriending

Dyma Ni Befriending

Dyma Ni Community Hub

Mae Dyma Ni Befriending yn broject sy’n perthyn i
Croeso Menai, gan gynnig cyfeillgarwch a
chefnogaeth i rai sy’n ceisio lloches ac yn byw yma
yng ngogledd orllewin Cymru.
Mae rhai sy’n ceisio lloches yn gorfod byw mewn
rhyw wagle am fisoedd, hyd yn oed blynyddoedd,
cyn i benderfyniad gael ei wneud ar eu hachos. Yn
ystod y cyfnod hwn ni chânt weithio a £47 yr
wythnos yn unig sydd ganddynt i fyw.
Mae’r rhethreg ar y cyfryngau a chan ein
gwleidyddion yn aml yn elyniaethus, gydag
agweddau negyddol, llidiog yn gyffredin.
Y gwirionedd yw bod gan ein ffrindiau lawer i’w
gynnig i’r DG – mae gwirfoddolwyr ynghyd â
cheiswyr lloches yn elwa ar y cyswllt o’r ddwy ochr
a ddarperir gan DNB ac yn ei fwynhau.
Mae’n project s’yn atgyfnerthu statws Cymru fel
Cenedl Noddfa

Pryd a Lle?

Bob Dydd Llun a Dydd Iau 3-5.30yh

Dyma Ni, Tŷ Cwrdd y Crynwyr, Stryd y Deon, Bangor, LL57 1UP

Beth?

Lluniaeth am ddim
Cwrdd ag eraill o’ch mamwlad
Ymarfer eich Cymraeg a Saesneg
Cornel Chwarae Plant
Cyfeirio a Chefnogaeth
Cyfeirio Banc Bwyd

Oes gennych awydd Gwirfoddoli gyda DNB?

SMS neu Ffon: 07900 353043
WhatsApp: 07388 600528

Cyfrannwch i Ni

Os hoffech gyfrannu at Groeso Menai, gallwch wneud hynny drwy drosglwyddiad banc:

Cyfrif: Croeso Menai
Côd didoli: 51-61-28
Rhif cyfrif: 77490835
NatWest

Cyfeiriwch eich rhodd gyda DNB a’ch enw
Anfonwch e-bost atom am ffurflen rhodd cymorth
Diolch yn fawr!

Fel arall, gallwch gyfrannu gan ddefnyddio:
CAF (Charities Aid Foundation)

info@croesomenai.org.uk                Facebook: @dymanibefriending

Charity Registration Number: 1186363

“I was happy to see a great person with a human
heart and soul. Thank you for being you”
Quote from an asylum seeker
“Dear Dyma Ni, Thank you very much. I love all of you and will never forget you. I miss you. You are in my heart forever. Without your support, I couldn’t survive. You were like my family, and all other asylum seekers should know that they will never find such a supportive people elsewhere”

Quote from a new refugee, who had been living in limbo in Bangor for 7 months, before he was granted leave to remain

 

Rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid, Quaker Meeting Bangor, sydd wedi darparu safle am ddim ers 2022

Rydym hefyd yn ddiolchgar am gyllid grant gan Migrant Help yn 2025 ar gyfer Dyma Ni Befriending