Er Cof am Susan Hofsteede

Ar Fedi 29ain 2025, yn ddisymwth, collasom ein cydweithiwr a’n ffrind gwerthfawr iawn, Susan Hofsteede.
Mae pawb yn Croeso Menai, ac yn enwedig yn Dyma Ni Befriending, yn hiraethu’n fawr ar ei hôl. Roedd hi wedi cefnogi achosion heddwch, tosturi a chyfiawnder ers blynyddoedd lawer gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaint a mannau eraill. Pan symudodd hi a’i gŵr, Frans, i Fangor yn 2012, elwodd yr achosion hynny’n fawr o’i chefnogaeth. Buodd yn gyfrifol am fentrau amgylcheddol a chymdeithasol, ynghŷd â heddwch a chyfiawnder i’r rhai oedd yn ffoi rhag erledigaeth, trais, newyn a pherygl.
Roedd gan Sue hefyd asbri at fywyd a meddai ar synnwyr digrifwch dwfn. Roedd hi’n gyfranogwr gwych yn y gweithgareddau a garai, yn ogystal â bod yn drefnydd penderfynol, dyfeisgar ac effeithiol.

Ar ôl cymryd rhan dawel ym mentrau cyntaf Croeso Menai i Noddi Cymunedol a chefnogaeth yn y gymdeithas i ffoaduriaid Wcráin, ymunodd â’r tîm bach a sefydlodd Dyma Ni Befriending pan ddechreuodd llywodraeth y DU wasgaru Ceiswyr Lloches o amgylch y wlad gan gynnwys Gwynedd a Môn. Roedd hi’n gydlynydd ymroddedig i’r fenter ac yn gyfrifol am y grantiau cychwynnol a gawsom. Mae’r rhain wedi helpu ein ffrindiau i ddod i adnabod yr ardal, cael mynediad i iaith hanfodol a dysgeidiaeth arall, negydu ein system gofal iechyd, gwneud gwaith gwirfoddol, canfod dillad angenrheidiol, beiciau ac eitemau hanfodol eraill ac elwa ar chwaraeon, gweithgareddau awyr agored a llawer mwy.

Roedd Sue yn garedig, yn llawn tosturi ac yn barod bob amser i fynd yr ail filltir pan oedd defnyddiwr y gwasanaeth yn cael anhawsterau. Cynhwysai bobl leol gyda sgiliau, adnoddau a thalentau i gynnal sesiynau creadigol mewn cerddoriaeth, symudiad, crefftau ac ati. Roedd hi’n cydnabod anghenion ac yn gweithio i’w diwallu. Gwerthfawrogwyd ei hymdrechion yn fawr gan y rhai a dderbyniodd y cymorth, gan ein tîm cyfan a phawb sy’n gweithio gyda ni. Dyma nifer fach o’r amryw sylwadau a wnaed gan ein ffrindiau:
“She was such a kind, wise, and generous lady who always supported our community and welcomed us with care and warmth. Her kindness touched us all, and she will be deeply missed.”
“She was such a kind person and a true example, and I’ll always remember her.”
“I’ll never forget Sue and her kindness that makes all this process easier to cope with, her support and understanding that gives us hope.”
“She was my best, she was a kind person, honesty and role model for all of us.”

Meddai Sue amynedd a goddefgarwch wrth i ni wynebu rhwystredigaethau, tra’n dal at ei hegwyddorion a’i hymrwymiad yr un pryd. Bydd ei hysbryd a’i hesiampl yn parhau i ysbrydoli ein gwaith.
##################################################
GIG COMEDI KIRI – ELW O £2,762!

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Gig Comedi Kiri ym mis Gorffennaf 2025 wedi gwneud £2,762.88 gwych! Roedd hyn yn cynnwys £2,294.29 ar werthiannau tocynnau a £468.59 anferth ar y raffl (gwobrau a ddarparwyd yn garedig gan Kiri).

Roedd y lleoliad yn llawn dop a chawsom ein diddanu’n wych gan dri digrifwr anhygoel, gyda Kiri yn gyflwynydd doniol iawn.
Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch a ddaeth i gefnogi Croeso Menai.

Mae’r cyfanswm hwn yn golygu ein bod wedi cyrraedd ein cyfanswm o £9,000 a gallwn nawr wneud cais am gymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref i ddod â theulu o Affganistan i loches ym Mangor.
Rydym yn gobeithio cael newyddion am groesawu’r teulu tua diwedd y flwyddyn hon.
##################################################

Mae’n gyffrous cael cyhoeddi Noson er Budd Croeso Menai
https://www.bbc.co.uk/programmes/p0l993mg
YNGHYLCH NODDI CYMUNEDOL I FFOADURIAID
Noddi Cymunedol yw un o unig ffyrdd cyfreithlon Swyddfa Gartref y DU i ffoaduriaid ddod i mewn i’r DU. Mae’n ffordd i gymunedau lleol, mudiadau cymdeithas sifil, elusennau, a grwpiau ffydd ymwneud yn uniongyrchol â chynorthwyo ffoaduriaid i gael noddfa yn y DU. Mae noddwyr cymunedol yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i roi’r grym i deuluoedd ailadeiladu eu bywydau yn ddiogel, ac i ddod yn aelodau hunangynhaliol o’r gymuned newydd.
Mae Croeso Menai yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ac elusen sy’n Noddwr Arweiniol sy’n arbenigo mewn Noddi Cymunedol i groesawu teulu. Mae CM3 yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol sy’n cynnwyd dwy wraig Affganaidd. Mae’r ddwy yn byw ym Mangor ar ôl derbyn caniatâd i ddod i’r DU ar ôl ffoi o Affganistan. Roedd Khatera yn ddarlithydd mewn prifysgol yn Affganistan ac mae bellach yn gwneud doethuriaeth, ac mae Zakia yn gobeithio hyfforddi fel bydwraig. Gyda Khatera a Zakia yn aelodau o’r tîm mae Croeso Menai yn bwriadu rhoi cartref i deulu o Affganistan sy’n cynnwys menywod a merched, gan newid eu rhagolygon drwy gael mynediad at addysg.
Os hoffech gyfrannu at Groeso Menai, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio’r cod QR neu drwy drosglwyddiad banc.

NatWest
51-61-28
77977629