Newyddion

Er Cof am Susan Hofsteede

Ar Fedi 29ain 2025, yn ddisymwth, collasom ein cydweithiwr a’n ffrind gwerthfawr iawn, Susan Hofsteede.

Mae pawb yn Croeso Menai, ac yn enwedig yn Dyma Ni Befriending, yn hiraethu’n fawr ar ei hôl. Roedd hi wedi cefnogi achosion heddwch, tosturi a chyfiawnder ers blynyddoedd lawer gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaint a mannau eraill. Pan symudodd hi a’i gŵr, Frans, i Fangor yn 2012,  elwodd yr achosion hynny’n fawr o’i chefnogaeth. Buodd yn gyfrifol am fentrau amgylcheddol a chymdeithasol, ynghŷd â heddwch a chyfiawnder i’r rhai oedd yn ffoi rhag erledigaeth, trais, newyn a pherygl.

Roedd gan Sue hefyd asbri at fywyd a meddai ar synnwyr digrifwch dwfn. Roedd hi’n gyfranogwr gwych yn y gweithgareddau a garai, yn ogystal â bod yn drefnydd penderfynol, dyfeisgar ac effeithiol.

Ar ôl cymryd rhan dawel ym mentrau cyntaf Croeso Menai i Noddi Cymunedol a chefnogaeth yn y gymdeithas i ffoaduriaid Wcráin, ymunodd â’r tîm bach a sefydlodd Dyma Ni Befriending pan ddechreuodd llywodraeth y DU wasgaru Ceiswyr Lloches o amgylch y wlad gan gynnwys Gwynedd a Môn. Roedd hi’n gydlynydd ymroddedig i’r fenter ac yn gyfrifol am y grantiau cychwynnol a gawsom. Mae’r rhain wedi helpu ein ffrindiau i ddod i adnabod yr ardal, cael mynediad i iaith hanfodol a dysgeidiaeth arall, negydu ein system gofal iechyd, gwneud gwaith gwirfoddol, canfod dillad angenrheidiol, beiciau ac eitemau hanfodol eraill ac elwa ar chwaraeon, gweithgareddau awyr agored a llawer mwy.

Roedd Sue yn garedig, yn llawn tosturi ac yn barod bob amser i fynd yr ail filltir pan oedd defnyddiwr y gwasanaeth yn cael anhawsterau. Cynhwysai bobl leol gyda sgiliau, adnoddau a thalentau i gynnal sesiynau creadigol mewn cerddoriaeth, symudiad, crefftau ac ati. Roedd hi’n cydnabod anghenion ac yn gweithio i’w diwallu. Gwerthfawrogwyd ei hymdrechion yn fawr gan y rhai a dderbyniodd y cymorth, gan ein tîm cyfan a phawb sy’n gweithio gyda ni. Dyma nifer fach o’r amryw sylwadau a wnaed gan ein ffrindiau:

“She was such a kind, wise, and generous lady who always supported our community and welcomed us with care and warmth. Her kindness touched us all, and she will be deeply missed.”

“She was such a kind person and a true example, and I’ll always remember her.”

“I’ll never forget Sue and her kindness that makes all this process easier to cope with, her support and understanding that gives us hope.”

She was my best, she was a kind person, honesty and role model for all of us.”

Meddai Sue amynedd a goddefgarwch wrth i ni wynebu rhwystredigaethau, tra’n dal at ei hegwyddorion a’i hymrwymiad yr un pryd. Bydd ei hysbryd a’i hesiampl yn parhau i ysbrydoli ein gwaith.

 

##################################################

GIG COMEDI KIRI – ELW O £2,762!


Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Gig Comedi Kiri ym mis Gorffennaf 2025 wedi gwneud £2,762.88 gwych! Roedd hyn yn cynnwys £2,294.29 ar werthiannau tocynnau a £468.59 anferth ar y raffl (gwobrau a ddarparwyd yn garedig gan Kiri).


Roedd y lleoliad yn llawn dop a chawsom ein diddanu’n wych gan dri digrifwr anhygoel, gyda Kiri yn gyflwynydd doniol iawn.
Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch a ddaeth i gefnogi Croeso Menai.


Mae’r cyfanswm hwn yn golygu ein bod wedi cyrraedd ein cyfanswm o £9,000 a gallwn nawr wneud cais am gymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref i ddod â theulu o Affganistan i loches ym Mangor.

Rydym yn gobeithio cael newyddion am groesawu’r teulu tua diwedd y flwyddyn hon.

##################################################

NOSON GOMEDI I CROESO MENAI
YNG NGHWMNI
KIRI PRITCHARD-MCLEAN!

Mae’n gyffrous cael cyhoeddi Noson er Budd Croeso Menai
gyda
Kiri Pritchard-McLean
ddydd Gwener, 18 Gorffennaf
yn
Neuadd Ogwen, Bethesda
Mae tocynnau’n prysur ddiflannu – £16.50/£13.50
Mae Kiri’n dod â ffrindiau o gomedïwyr sef Anna Thomas, Mel Owen a Stephen Bailey sydd i gyd yn garedig yn cefnogi CM i godi arian er mwyn croesawu teulu Afghan, drwy nawdd cymunedol.
Os yw Kiri’n ddieithr i chi, gwrandewch ar ei chyfres ar ‘Radio 4 Best Medicine’ neu ‘Radio 4 Comedy of the Week’
https://www.bbc.co.uk/programmes/p0l993mg

YNGHYLCH NODDI CYMUNEDOL I FFOADURIAID
Noddi Cymunedol yw un o unig ffyrdd cyfreithlon Swyddfa Gartref y DU i ffoaduriaid ddod i mewn i’r DU. Mae’n ffordd i gymunedau lleol, mudiadau cymdeithas sifil, elusennau, a grwpiau ffydd ymwneud yn uniongyrchol â chynorthwyo ffoaduriaid i gael noddfa yn y DU. Mae noddwyr cymunedol yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i roi’r grym i deuluoedd ailadeiladu eu bywydau yn ddiogel, ac i ddod yn aelodau hunangynhaliol o’r gymuned newydd.
Ers 2018 mae Croeso Menai wedi noddi dau deulu bregus sydd wedi cychwyn bywydau newydd yng Nghymru, un o Syria ac un o Irac.
I gael rhagor o wybodaeth:
TÎM 3 CROESO MENAI (CM3)
Mae Croeso Menai yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ac elusen sy’n Noddwr Arweiniol sy’n arbenigo mewn Noddi Cymunedol i groesawu teulu. Mae CM3 yn cynnwys gwirfoddolwyr lleol sy’n cynnwyd dwy wraig Affganaidd. Mae’r ddwy yn byw ym Mangor ar ôl derbyn caniatâd i ddod i’r DU ar ôl ffoi o Affganistan. Roedd Khatera yn ddarlithydd mewn prifysgol yn Affganistan ac mae bellach yn gwneud doethuriaeth, ac mae Zakia yn gobeithio hyfforddi fel bydwraig. Gyda Khatera a Zakia yn aelodau o’r tîm mae Croeso Menai yn bwriadu rhoi cartref i deulu o Affganistan sy’n cynnwys menywod a merched, gan newid eu rhagolygon drwy gael mynediad at addysg.
Ein tasg gyntaf yw hel cronfa o £9,000 i’w ddefnyddio ar gyfer y costau sy’n gysylltiedig â darparu cartref i’r teulu o ffoaduriaid. Mae tŷ sydd wedi’i rentu gan landlord preifat, yn cael ei baratoi drwy gyfraniadau hael o ddodrefn a deunyddiau cartref. Rydym wedi codi hanner yr arian sydd ei angen arnom yn barod ac rydym yn gobeithio dod â theulu i Ogledd Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.
Drwy gefnogi gig comedi Kiri, byddwch yn helpu teulu Affganaidd i gael noddfa yng Ngogledd Cymru.
CYFRANNU AT CROESO MENAI
Os hoffech gyfrannu at Groeso Menai, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio’r cod QR neu drwy drosglwyddiad banc.
Cyfeiriwch eich rhodd gyda CM3 a’ch enw.
Anfonwch e-bost atom am ffurflen rhodd cymorth.
Diolch yn fawr!
Croeso Menai
NatWest
51-61-28
77977629
Ni fydd helpu un teulu yn newid y byd
ond bydd yn newid byd un teulu